Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth Cymru
6Diffiniadau o eiriau ac ymadroddion
(1)Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—
(a)mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;
(b)dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;
(c)diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).
7Mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog ac fel arall
Mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig—
(a)mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog;
(b)mae geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.
8Nid yw geiriau sy’n dynodi rhywedd yn gyfyngedig i’r rhywedd hwnnw
Mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, nid yw geiriau sy’n dynodi personau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o’r rhywedd hwnnw.
9Amrywio geiriau ac ymadroddion oherwydd gramadeg etc.
Pan fo deddfiad yn rhoi ystyr i air neu ymadrodd mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, mae rhannau ymadrodd eraill a ffurfiau neu oleddfiadau gramadegol ar y gair neu’r ymadrodd i’w dehongli yn unol â’r ystyr hwnnw.
10Cyfeiriadau at amser o’r dydd
Mae cyfeiriad at amser o’r dydd mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 3 o Ddeddf Amser Haf 1972 (p. 6) (pwyntiau o amser yn ystod amser haf).
11Cyfeiriadau at y Sofren
Mae cyfeiriad at y Sofren mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.
12Mesur pellter
Mae cyfeiriad at bellter mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at y pellter hwnnw wedi ei fesur mewn llinell syth ar blân llorweddol.