RHAN 3AMRYWIOL
I138Pŵer i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau ac amseroedd yn neddfwriaeth Cymru
1
Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—
a
diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;
b
gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.
3
Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—
a
F10Deddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;
b
is-ddeddfwriaeth a wneir o dan F10Ddeddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;
c
unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;
d
unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).
I239Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanol
1
Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, cânt arfer y pŵer neu’r ddyletswydd drwy wneud yr is-ddeddfwriaeth ar unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny drwy offeryn statudol.
2
Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.
3
Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).
4
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—
a
a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a
b
sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.
I340Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y F9Senedd
1
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y F6Senedd o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y F6Senedd a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y F6Senedd yn gymwys).
2
Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y F2Senedd” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith—
a
na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron F7Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,
b
c
bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan F8Senedd Cymru,
d
bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron F4Senedd Cymru ar ôl iddo gael ei wneud, neu
e
nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron F5Senedd Cymru ar unrhyw adeg.
3
Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—
a
eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na
b
effeithio ar y weithdrefn yn y F3Senedd sy’n gymwys i offeryn o’r fath.
4
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—
a
a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a
b
sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.