RHAN 3AMRYWIOL

I138Pŵer i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau ac amseroedd yn neddfwriaeth Cymru

1

Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—

a

diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;

b

gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.

3

Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—

a

F13Deddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;

b

is-ddeddfwriaeth a wneir o dan F13Ddeddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;

c

unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;

d

unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).

I239Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanol

1

Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, cânt arfer y pŵer neu’r ddyletswydd drwy wneud yr is-ddeddfwriaeth ar unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny drwy offeryn statudol.

2

Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.

3

Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).

4

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—

a

a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol F8a gymathwyd, a

b

sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.

I340Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y F12Senedd

1

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y F7Senedd o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y F7Senedd a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y F7Senedd yn gymwys).

2

Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y F3Senedd” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith⁠—

a

na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron F9Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,

b

bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron F1Senedd Cymru ar ôl iddo gael ei wneud a rhaid iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan F1Senedd Cymru er mwyn i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys ddod i rym neu barhau mewn grym,

c

bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan F11Senedd Cymru,

d

bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron F5Senedd Cymru ar ôl iddo gael ei wneud, neu

e

nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron F6Senedd Cymru ar unrhyw adeg.

3

Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—

a

eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na

b

effeithio ar y weithdrefn yn y F4Senedd sy’n gymwys i offeryn o’r fath.

4

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—

a

a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol F10a gymathwyd, a

b

sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.

40AF2Cymhwyso'r Rhan hon mewn perthynas â pharth Cymru

Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.”