RHAN 3LL+CAMRYWIOL

38Pŵer i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau ac amseroedd yn neddfwriaeth CymruLL+C

(1)Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—

(a)diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;

(b)gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—

(a)[F1Deddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;

(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F1Ddeddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;

(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;

(d)unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 38 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)

39Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanolLL+C

(1)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, cânt arfer y pŵer neu’r ddyletswydd drwy wneud yr is-ddeddfwriaeth ar unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny drwy offeryn statudol.

(2)Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.

(3)Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—

(a)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [F2a gymathwyd], a

(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 39 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)

40Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y [F3Senedd] LL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y [F4Senedd] o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y [F4Senedd] a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y [F4Senedd] yn gymwys).

(2)Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y [F5Senedd]” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith⁠—

(a)na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [F6Senedd Cymru] a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,

(b)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [F7Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud a rhaid iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan [F7Senedd Cymru] er mwyn i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys ddod i rym neu barhau mewn grym,

(c)bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [F8Senedd Cymru],

(d)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [F9Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud, neu

(e)nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron [F10Senedd Cymru] ar unrhyw adeg.

(3)Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—

(a)eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na

(b)effeithio ar y weithdrefn yn y [F11Senedd] sy’n gymwys i offeryn o’r fath.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—

(a)a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [F12a gymathwyd], a

(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 40 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)

[F1340ACymhwyso'r Rhan hon mewn perthynas â pharth CymruLL+C

Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.”]

Diwygiadau Testunol

F13A. 40A wedi ei fewnosod (23.1.2021) gan Fisheries Act 2020 (c. 22), aau. 46(7)(b), 54(2) (ynghyd ag Atod. 4 para. 31)