xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4CYFFREDINOL

41Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

42Pŵer i wneud darpariaeth ychwanegol i roi effaith lawn i’r Ddeddf hon

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).

43Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 6(2);

(b)rheoliadau o dan adran 42(1) sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran 42(1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

44Y Ddeddf hon yn dod i rym

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adran 6(2) a (3);

(c)y darpariaethau eraill yn Rhan 2, i’r graddau y maent yn gymwys i’r Ddeddf hon;

(d)Rhan 3;

(e)y Rhan hon.

(2)I’r graddau nad yw wedi cael ei dwyn i rym gan is-adran (1), daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod a benodir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)rhaid ei wneud drwy offeryn statudol;

(b)caiff gynnwys ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

45Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.