RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Pwerau a dyletswyddau
17Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaeth
1
Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan Ddeddf Cynulliad fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).
2
Yn yr adran hon—
a
ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;
b
ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;
c
ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.
3
Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.
4
Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.
5
Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.