RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill

F125ACyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu

—(1) Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)

pan fo Deddf gan Senedd Cymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a

(b)

pan fo'r Ddeddf neu'r offeryn yn cyfeirio at unrhyw gytuniad sy'n ymwneud â'r UE, neu unrhyw offeryn neu ddogfen arall gan unrhyw endid o'r UE, sy'n cael effaith yn rhinwedd adran 7A neu 7B o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweithredu gweddill y cytundeb ymadael â'r UE etc. yn gyffredinol).

(2)

Mae'r cyfeiriad, i'r graddau y mae'n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at y cytuniad, yr offeryn neu'r ddogfen fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd yr adran honno (gan gynnwys, i'r graddau y mae'n ofynnol, fel y mae'n cael effaith o bryd i'w gilydd).

(3)

Yn yr adran hon—

mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” gan adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018; mae “cytuniad” (“treaty”) yn cynnwys unrhyw gytundeb rhyngwladol (ac unrhyw brotocol neu atodiad i gytuniad neu gytundeb rhyngwladol); mae i “endid o'r UE” yr ystyr a roddir i “EU entity” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.