RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Dyblygu troseddau
27Troseddau dyblyg
1
Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—
a
o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,
b
yn ôl y gyfraith gyffredin, neu
c
o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,
mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.
2
Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).