Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

27Troseddau dyblygLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—

(a)o dan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,

(b)yn ôl y gyfraith gyffredin, neu

(c)o dan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,

mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 27 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2