RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Cymhwyso’r Rhan a’i heffaith
3Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi
(1)
Mae’r Rhan hon yn gymwys i—
(a)
y Ddeddf hon;
(b)
Deddfau’r Cynulliad sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar F11 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw;
(c)
is-offerynnau Cymreig a wneir ar F21 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2)
Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—
(a)
is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;
(b)
is-ddeddfwriaeth—
(i)
a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir,
(ii)
nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a
(iii)
nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).