Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo deddfiad yn diwygio [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.

(2)Pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.

(3)Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir sy’n cael ei diwygio gan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 32 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2