RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaeth

I1I234Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadau

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F1Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

2

Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—

a

yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;

b

yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.

3

Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—

a

unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;

b

unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;

c

unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.