(1)Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—
(a)diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;
(b)gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—
(a)[F1Deddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F1Ddeddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;
(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;
(d)unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(9)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 38 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)