RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Cymhwyso’r Rhan a’i heffaith

4Effaith darpariaethau’r Rhan hon

(1)

Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—

(a)

y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)

y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2)

Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).

(3)

Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—

(a)

adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);

(b)

adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);

(c)

adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).