RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth Cymru
I2I16Diffiniadau o eiriau ac ymadroddion
I2I31
Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.
I12
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—
a
mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;
b
dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;
c
diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.
I13
Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).