xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth CymruLL+C

6Diffiniadau o eiriau ac ymadroddionLL+C

(1)Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—

(a)mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;

(b)dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;

(c)diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6(1) mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 6(2)(3) mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(b)

I3A. 6(1) mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2