Cofrestru Etholiadol
Adran 12 – Yr hawl i gofrestru yn etholwr llywodraeth leol
19.Mae adran 12 yn diwygio adran 4 o Ddeddf 1983 i bennu pwy gaiff gofrestru ar y gofrestr etholiadol llywodraeth leol at ddibenion etholiadau’r Senedd fel bod yr oedran pan gaiff person hawl i gael ei gofrestru yn etholwr llywodraeth leol yn newid o 18 oed neu'n hŷn i 16 oed neu'n hŷn.
20.Mae adran 12 hefyd yn diwygio adran 203(1) o Ddeddf 1983 i gynnwys diffiniad o ddinesydd tramor cymhwysol.
Adran 13 – Canfasio blynyddol
21.Mae adran 13 yn gwneud diwygiadau i’r broses ganfasio aelwydydd flynyddol mewn perthynas ag etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru fel y’i nodir yn Neddf 1983 a Rheoliadau 2001.
22.Mae adran 13(1) yn addasu’r gofyniad i swyddogion cofrestru wneud ymholiadau o dŷ i dŷ at ddibenion cynnal cofrestr etholwyr llywodraeth leol fel nad yw’n gymwys i unrhyw berson o dan 16 oed.
23.Mae adran 13(2)(a) yn diwygio Rheoliadau 2001 fel bod y ffurflen ganfasio flynyddol ar gyfer etholwyr llywodraeth leol yn gofyn am enw llawn, dyddiad geni a chenedligrwydd pob person 14 a 15 oed sy’n gymwys i gofrestru yn y cyfeiriad. Mae’r ddarpariaeth yn caniatáu i’r swyddog cofrestru, at ddibenion etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd, gynnwys y bobl a fydd yn 16 oed erbyn etholiad nesaf y Senedd ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol.
24.Mae adran 13(2)(b) yn atal swyddogion cofrestru rhag darparu dyddiad geni unrhyw berson o dan 16 oed ar ffurflenni canfasio wedi’u hargraffu ymlaen llaw.
Adran 14 – Gwahoddiadau i gofrestru
25.Mae adran 14 yn diwygio darpariaethau sy’n ymdrin â gwahoddiadau i gofrestru yn Neddf 1983 a rheoliadau 2001 i gynnwys darpariaeth am bersonau o dan 16 oed.
26.Mae adran 14(1) yn diwygio adran 9E o Ddeddf 1983 fel na chaiff swyddog cofrestru osod cosb sifil ar berson nad yw’n cydymffurfio â gofyniad i wneud cais i gofrestru pan fo’r person hwnnw o dan 16 oed.
27.Mae adran 14(2) yn gwneud diwygiadau i reoliad 32ZC o Reoliadau 2001 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gwahoddiad i wneud cais i gofrestru fel etholwr llywodraeth leol, pan fo’r person a wahoddir o dan 16 oed, gynnwys esboniad o sut y caiff gwybodaeth y person ei chadw a’i defnyddio.
28.Mae adran 14(3) yn diwygio rheoliad 32ZD o Reoliadau 2001 fel na fydd yn ofynnol i swyddog cofrestru ymweld â chyfeiriad person a wahoddir i gofrestru pan roddir y gwahoddiad i berson o dan 16 oed.
29.Mae adran 14(4) yn diwygio rheoliad 32ZE drwy addasu’r amodau sy’n gymwys cyn y caiff swyddog cofrestru ofyn i berson o dan 16 oed gofrestru. Mewn achosion o’r fath, nid oes gofyniad i’r swyddog fod wedi rhoi gwybod i’r person y gellid gosod cosb sifil os na fydd y person yn gwneud cais i gofrestru. Mae hefyd yn dileu’r gofyniad i gynnwys gwybodaeth am y gosb sifil pan anfonir hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson gofrestru at berson o dan 16 oed.
Adran 15 – Gwahoddiad i gofrestru: darpariaeth bellach am bersonau o dan 16 oed
30.Mae adran 15 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch gwahoddiadau i wneud cais i gofrestru yn etholwr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’n bosibl y bydd angen gwneud y rheoliadau hyn o ganlyniad i ostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, y mae'r etholfraint yn gysylltiedig â’r gofrestr llywodraeth leol (gweler adran 12 o Ddeddf 2006).
Adran 16 – Ceisiadau i gofrestru
31.Mae adran 16 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau 2001 mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.
32.Mae adran 16(3)(a) yn diwygio rheoliad 26 fel ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeiswyr na allant ddarparu dyddiad geni ddatgan a ydynt o dan 16 oed, yn 16 neu’n 17 oed, neu’n 18 oed neu’n hŷn.
33.Effaith y diwygiad yn adran 16(3)(b) yw ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn Etholiadol gynnwys y wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ym mharagraff (1A) wrth ddylunio ffurflenni cais perthnasol.
34.Mae adran 16(3)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol gynnwys gwybodaeth ar y ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru sy'n nodi, yn achos cofrestru etholwyr llywodraeth leol, nad yw personau nad ydynt yn ddinasyddion tramor cymhwysol, dinasyddion y Gymanwlad, dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon a dinasyddion perthnasol yr Undeb yn gymwys i gofrestru i bleidleisio.
35.Mae adran 16(3)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol nodi yn y ffurflenni cais perthnasol sut y caiff gwybodaeth am ymgeiswyr i gofrestru sydd o dan 16 oed ei chadw a'i defnyddio.
36.Mae adran 16(3)(e) yn diwygio rheoliad 26 drwy ddileu'r gofyniad i ddarparu rhif Yswiriant Gwladol wrth wneud cais i gofrestru pan fo'r ymgeisydd o dan 16 oed.
37.Mae hefyd yn dileu’r gofyniad ar swyddogion cofrestru i roi esboniad i’r ymgeiswyr o’r gofrestr olygedig pan fo’r ymgeisydd o dan 16 oed a phan fo’r swyddog cofrestru wedi awdurdodi’r ymgeisydd i ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol dros y ffôn neu’n bersonol. Y rheswm am hyn yw na fydd manylion pobl 14 neu 15 oed yn cael eu cynnwys yn y gofrestr olygedig.
38.Mae adran 16(4) yn diwygio rheoliad 26B. Pan fo’r ymgeisydd o dan 16 oed, nid yw pŵer y swyddog cofrestru i ofyn am wybodaeth ychwanegol o dan y rheoliad hwnnw’n gymwys os oes gwybodaeth ar gael i’r swyddog cofrestru o gofnodion addysgol, a phan fo’r wybodaeth honno’n bodloni’r swyddog cofrestru o ran hunaniaeth yr ymgeisydd a’i hawl i gael ei gofrestru.
39.Mae adran 16(5) yn dileu’r gofyniad yn rheoliad 28 bod rhaid i gais i gofrestru, ac unrhyw wrthwynebiad i gais o’r fath, fod ar gael i’w archwilio, pan wneir cais gan berson o dan 16 oed. Ni fydd manylion ceisiadau personau o dan 16 oed yn cael eu cyhoeddi.
40.Mae adran 16(6) yn darparu nad yw rheoliad 29ZA yn gymwys mewn achosion pan wneir cais i gofrestru gan berson o dan 16 oed. Mae Rheoliad 29ZA yn gwneud darpariaeth ynghylch dilysu gwybodaeth a ddarperir mewn cais i gofrestru sy’n cynnwys anfon y wybodaeth i’w gwirio ar sail cofnodion a gedwir gan Cyllid a Thollau EM a’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Adran 17 – Adolygu’r hawl i gofrestru
41.Mae adran 17(2) yn darparu nad yw rheoliad 31D(2)(b) yn gymwys pan fo testun adolygiad o’r fath o dan 16 oed.
42.Mae rheoliad 31D(2)(b) o Reoliadau 2001 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru wneud cofnod mewn rhestr (y gellir ei harchwilio) pan na fydd y swyddog yn fodlon bod gan destun adolygiad hawl i gael ei gofrestru.
43.Mae adran 17(3) yn diwygio rheoliad 31E fel nad yw’r gofyniad i gadw rhestr o adolygiadau’n gymwys pan fo testun yr adolygiad o dan 16 oed.
Adran 18 – Cofrestru'n ddienw
44.Mae adran 18 yn ychwanegu at restr, yn rheoliad 31J, y personau a gaiff ardystio cais i gofrestru’n ddienw a wneir gan berson o dan 16 oed mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’n caniatáu i berson a awdurdodir gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru lofnodi i ardystio y byddai diogelwch yr ymgeisydd (neu berson arall a enwir yn aelwyd yr ymgeisydd) mewn perygl pe byddai’r gofrestr yn cynnwys enw neu gyfeiriad cymhwysol yr ymgeisydd.
Adran 19 – Datganiad o gysylltiad lleol
45.Mae adran 19 yn diwygio adran 7B o Ddeddf 1983 mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.
46.Mae adran 7B yn nodi o dan ba amgylchiadau y caniateir i berson wneud datganiad o gysylltiad lleol. Effaith datganiad o gysylltiad lleol yw y gellir cofrestru datganwyr drwy nodi cyfeiriad heblaw’r un nad ydynt yn byw ynddo fel rheol.
47.Mae’r diwygiadau a wneir gan adran 19(2) yn caniatáu i bersonau o dan 18 oed wneud datganiad o gysylltiad lleol os ydynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu’n cael eu cadw mewn llety diogel a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru mewn amgylchiadau a bennir hefyd yn y rheoliadau.
48.Mae adran 19(3) yn diwygio is-adran (3)(e) o Ddeddf 1983 i'w gwneud yn ofynnol i ddatganiadau o gysylltiad lleol nodi a yw person yn ddinesydd tramor cymhwysol.
49.Mae adran 19(4) yn diwygio adran 7B(4) o Ddeddf 1983 ac yn nodi’r gofynion o ran cyfeiriad person sy’n gwneud datganiad o gysylltiad lleol o dan adran 7B(2A). Rhaid i’r cyfeiriad fod yn gyfeiriad yng Nghymru y mae’r person wedi byw ynddo o’r blaen neu fod yn gyfeiriad mewn cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru y mae’r person wedi byw ynddo o’r blaen.
50.Mae adran 19(5) yn egluro na fydd y datganiadau a wneir yn rhinwedd adran 7B(2A) o Ddeddf 1983 yn cael effaith yn etholiadau seneddol y DU. Mae hefyd yn egluro na fydd datganiadau o gysylltiad lleol eraill a wneir gan ddinesydd tramor cymhwysol neu bersonau o dan 17 oed nad oes ganddynt hawl i gael eu cofrestru yn y gofrestr etholiadau seneddol yn cael effaith yn etholiadau seneddol y DU. Mae'n darparu y dylid marcio'r cofrestrau etholiadol i ddangos y datganiadau o gysylltiad lleol sy'n gymwys i gofrestru fel etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru yn unig.
51.Mae adran 19(5) hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y dylid nodi datganiadau o gysylltiad lleol ar y gofrestr.
Adran 20 – Datganiadau o wasanaeth
52.Mae adran 20(2) yn diwygio adran 14 o Ddeddf 1983 i ganiatáu i unigolion penodol o dan 18 oed feddu ar gymhwyster gwasanaeth at ddibenion Deddf 1983. Mae’n rhaid bod gan yr unigolyn o dan 18 oed riant neu warcheidwad sydd â chymhwyster gwasanaeth ac mae’n rhaid ei fod yn byw mewn man penodol er mwyn bod gyda’r rhiant hwnnw neu’r gwarcheidwad hwnnw. Effaith y diwygiad yw ei fod yn ymestyn, at ddibenion etholiadau’r Senedd, y categorïau o bersonau a gaiff wneud datganiad o wasanaeth. Drwy gael caniatâd i wneud datganiad o wasanaeth, caiff personau cymwys o dan 18 oed gofrestru i bleidleisio drwy nodi eu cyfeiriad cartref (neu eu cyfeiriad blaenorol) yng Nghymru, yn hytrach na’r cyfeiriad lle y mae eu rhiant neu eu gwarcheidwad yn gwasanaethu (gwasanaeth milwrol fel rheol).
53.Mae adran 20(3) yn diwygio adran 15 o Ddeddf 1983 drwy wneud darpariaeth ar gyfer dirymu’r cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A) pan fo’r person sydd wedi gwneud y datganiad o wasanaeth yn cyrraedd 18 oed. Mae datganiad o wasanaeth a wneir o dan adran 14(1A) yn peidio â bod yn weithredol pan fydd y person a wnaeth y datganiad yn cyrraedd 18 oed ac mae hawl y person i barhau i fod ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol hefyd yn dod i ben. Pan fydd yr hawl i fod ar y gofrestr yn dod i ben, rhaid dileu manylion y person o’r gofrestr.
54.Fel gyda datganiadau o gysylltiad lleol, mae adran 20(3)(b) yn egluro mai dim ond at ddibenion cofrestru person fel etholwr llywodraeth leol yng Nghymru y mae’r darpariaethau ar ddatganiadau o wasanaeth a fewnosodir gan y Ddeddf hon yn berthnasol ac nad ydynt yn cael effaith at ddibenion etholiadau seneddol y DU.
55.Mae adran 20(4) yn diwygio adran 16 o Ddeddf 1983 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cynnwys datganiad o wasanaeth.
56.Mae’r diwygiad yn darparu, o ran cofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru, nad oes angen ardystio datganiad o wasanaeth a wneir gan berson o dan 18 oed fel y nodir yn adran 14(1A).
57.Mae adran 20(5)(a) yn diwygio adran 17 o Ddeddf 1983 i ychwanegu cyfeiriad at ddinasyddion tramor cymhwysol.
58.Mae adran 20(5)(b) yn gwneud newid canlyniadol i adran 17 o Ddeddf 1983 fel bod y ddarpariaeth gyffredinol ynghylch effaith barhaus datganiad o wasanaeth yn cael ei gwneud yn ddarostyngedig i adran 15(3A) o Ddeddf 1983
Adran 21 – Cynnwys datganiadau o wasanaeth
59.Mae adran 21 yn diwygio Rheoliadau 2001 drwy addasu’r ddarpariaeth bresennol a gwneud darpariaeth ychwanegol ynglŷn â chynnwys datganiad o wasanaeth mewn achosion lle y mae datganydd yn hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A). Mae adran 21(2)(a) yn diwygio rheoliad 15 fel nad yw person sy’n hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A) yn ddarostyngedig i’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 15(1)(c) ond mae’n ofynnol iddo ddarparu’r wybodaeth a bennir yn rheoliad 15A.
60.Mae adran 21(2)(b) yn diwygio ystyr adran Llywodraeth yn rheoliad 15(3) mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru fel ei fod yn cynnwys unrhyw sefydliad lle y mae gweision y Goron yn gweithio.
61.Mae adran 21(3) yn mewnosod rheoliad 15A yn rheoliadau 2001. Mae’r rheoliad yn gwneud darpariaeth ynghylch y wybodaeth sydd ei hangen mewn datganiad o wasanaeth lle y mae person yn hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A). Mae’r rhain yn cynnwys manylion rhiant neu warcheidwad yr ymgeisydd sydd â chymhwyster gwasanaeth. Er enghraifft, rhaid i ddatganiad a wneir ar sail rhiant neu warcheidwad sy’n aelod o’r lluoedd arfog gynnwys y gwasanaeth, y rheng neu’r dosbarth, a rhif gwasanaeth, a chatrawd neu gorfflu (lle y bo’n briodol) y rhiant hwnnw neu’r gwarcheidwad hwnnw.
Adran 22 – Datganiadau o wasanaeth: darpariaeth bellach
62.Mae adran 22 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch datganiadau o wasanaeth mewn diwygiadau i Reoliadau 2001.
63.Mae adran 22(2) yn diwygio rheoliad 25 ac yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru anfon neges atgoffa at berson sydd â chymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A) o Ddeddf 1983 y bydd y datganiad o wasanaeth yn peidio â bod yn weithredol ac y bydd yr hawl i barhau i fod ar y gofrestr yn dod i ben pan fydd y person yn cyrraedd 18 oed.
64.Mae adran 22(3)(a) yn diwygio rheoliad 26B fel nad yw person sy’n hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A) yn ddarostyngedig i’r gofyniad i ddarparu’r dogfennau a nodir ym mharagraffau (2) i (6) o’r rheoliad.
65.Mae adran 22(3)(b) hefyd yn diwygio rheoliad 26B drwy bennu’r dogfennau y gall fod eu hangen ar swyddog cofrestru yn achos person sy’n hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A). Caiff swyddog cofrestru ofyn i’r ymgeisydd ddarparu pasbort neu gerdyn adnabod yr ymgeisydd, neu gopi o un. Os darperir copi, rhaid iddo gael ei ardystio gan swyddog perthnasol. Mae adran 22(3)(b) yn mewnosod diffiniad o swyddog perthnasol yn rheoliad 26B ac yn eithrio rhiant, gwarcheidwad, priod neu bartner sifil yr ymgeisydd o’r diffiniad hwnnw.
Adran 23 – Cofrestr etholwyr
66.Mae adran 23 yn diwygio adran 9 o Ddeddf 1983. Mae’r diwygiad yn darparu, lle y caiff y gofrestr etholwyr seneddol a’r gofrestr etholwyr llywodraeth leol eu cyfuno a lle y mae’n cynnwys cofnod ar gyfer person 16 neu 17 oed sydd wedi’i gofrestru fel etholwr llywodraeth leol yn unig, rhaid i’r cofnod nodi’r dyddiad pan fydd y person yn cyrraedd 18 oed.
67.Effaith hyn fydd sicrhau y bydd swyddogion cofrestru yn cael eu hysbysu pan fydd yr etholwr yn cyrraedd 18 oed, a gellir cymryd camau wedi hynny i sicrhau cywirdeb y gofrestr gyfunol.
Adran 24 – Diogelu gwybodaeth am bersonau o dan 16 oed
68.Mae adran 24 yn gwahardd swyddogion cofrestru (a phersonau sy’n eu cynorthwyo) rhag cyhoeddi, cyflenwi neu ddatgelu gwybodaeth person ifanc ac eithrio lle y caniateir iddynt wneud hynny o dan y Ddeddf hon. Diffiniad gwybodaeth person ifanc, at ddibenion adrannau 24, 25 a 26, yw unrhyw gofnod yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol, neu gofnod neu restr pleidleiswyr absennol sy'n ymwneud â phersonau o dan 16 oed.
Adran 25 – Eithriadau i’r gwaharddiad ar ddatgelu
69.Mae adran 25 yn pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc.
70.Mae adran 25(10) hefyd yn darparu na chaiff person y datgelir gwybodaeth person ifanc iddo o dan is-adran (2) neu (6) drosglwyddo’r wybodaeth honno i berson arall, oni bai bod y datganiad at ddibenion yr is-adrannau hynny.
71.Mae adran 25(11) yn darparu bod person y datgelir gwybodaeth person ifanc iddo o dan is-adran (2) neu (6) yn cyflawni trosedd ddiannod os yw’r person yn trosglwyddo’r wybodaeth honno’n groes i is-adran (10).
Adran 26 – Darpariaeth bellach ar gyfer eithriadau
72.Mae adran 26 yn nodi pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch datgelu gwybodaeth person ifanc mewn cysylltiad ag etholiadau i'r Senedd.
73.Mae adran 26(2) yn nodi rhestr anghynhwysfawr o’r math o ddarpariaeth y gellir ei gwneud yn y rheoliadau. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch:
y personau y caniateir cyflenwi’r wybodaeth iddynt;
at ba ddibenion y caniateir cyflenwi’r wybodaeth;
y cyfyngiadau sy’n gymwys i’r rhai sy’n cael y wybodaeth,
y cyfyngiadau sy’n gymwys i’r personau sy’n paratoi’r gofrestr lawn.
74.Mae adran 26(3) yn caniatáu i reoliadau i ddiwygio neu ddiddymu unrhyw un o'r eithriadau rhag gwaharddiad ar ddatgelu gwybodaeth pobl ifanc a nodir yn adran 24. Mae is-adran (3) hefyd yn caniatáu rheoliadau i greu troseddau diannod ynghylch datgelu gwybodaeth person ifanc mewn cysylltiad ag etholiadau i’r Senedd.
75.Mae adran 26(4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â phersonau sy’n briodol, yn eu barn hwy, cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon.
Adran 27 – Diwygiadau i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007
76.Mae adran 27 yn mewnosod diffiniad o oedran pleidleisio yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 sy’n golygu personau 16 oed neu drosodd. Mae'n diwygio’r diffiniad o ddinesydd cymhwysol y Gymanwlad ac yn mewnosod diffiniad newydd o ran dinesydd tramor cymhwysol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth fanwl ynghylch cynnal etholiadau’r Senedd, gan gynnwys darpariaeth ynghylch pleidleisio a phleidleiswyr.
77.Mae adran 27(3) yn caniatáu i ddinasyddion tramor cymhwysol a’r holl bersonau 16 oed a throsodd gael eu henwebu i weithredu fel pleidleisiwr drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau’r Senedd.