Nodyn Esboniadol

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

1

Cyflwyniad

Rhan 5.Amrywiol

124.Mae’r Rhan hon yn gwneud diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2006. Mae’n newid y dyddiad ar gyfer cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad. Mae hefyd yn ei gwneud yn glir y caiff Comisiwn y Senedd godi tâl am ddarparu nwyddau neu wasanaethau i’r cyhoedd.

125.Mae hefyd yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi adroddiad ar weithredu rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf hon.

Adran 36 – Amseriad cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinol

126.Mae adran 36 yn ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinol arferol neu eithriadol o 7 i 14 diwrnod.

Adran 37 – Pwerau Comisiwn y Senedd: darparu nwyddau a gwasanaethau

127.Mae adran 37 yn amnewid paragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006 i'w gwneud yn glir y caiff Comisiwn y Senedd godi tâl am ddarparu nwyddau neu wasanaethau.

Adran 38 – Adroddiad ar estyn yr hawl i bleidleisio a newid cymhwystra i fod yn Aelod o'r Senedd

128.Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio adroddiad, ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad ar weithredu darpariaethau yn y Ddeddf sydd yn:

129.Rhaid llunio a chyhoeddi'r adroddiad o fewn chwe mis i ddiwedd y cyfnod adrodd.

130.Y cyfnod adrodd yw'r cyfnod pum mlynedd o ddiwrnod etholiad cyffredinol nesaf y Senedd a gynhelir ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny. Ar hyn o bryd, trefnir etholiad cyffredinol nesaf y Senedd ar gyfer mis Mai 2021.