Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

RHAN 5LL+CAMRYWIOL

36Amseriad cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinolLL+C

(1)Yn adran 3 o Ddeddf 2006 (etholiadau cyffredinol arferol), yn is-adran (2)(b), yn lle “seven” rhodder “fourteen”.

(2)Yn adran 4 o Ddeddf 2006 (pŵer i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol), yn is-adran (2)(c), yn lle “seven” rhodder “fourteen”.

(3)Yn adran 5 o Ddeddf 2006 (etholiadau cyffredinol eithriadol), yn is-adran (4)(c), yn lle “seven” rhodder “fourteen”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 36 mewn grym ar ddiwrnod etholiad cyntaf y Senedd lle cynhelir y bleidlais ar neu ar ôl 5.4.2021, gweler a. 42(5)

37Pwerau Comisiwn y Senedd: darparu nwyddau a gwasanaethauLL+C

Yn Atodlen 2 i Ddeddf 2006 (Comisiwn y Cynulliad), ym mharagraff 4, yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4)The Senedd Commission may—

(a)provide goods or services to the public, or

(b)make arrangements for the provision of goods or services to the public.

(4A)The Senedd Commission may charge for goods or services provided under sub-paragraph (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 37 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 42(1)(d)

38Adroddiad ar estyn yr hawl i bleidleisio a newid cymhwystra i fod yn Aelod o’r SeneddLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adrodd, lunio a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad y darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n—

(a)estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n 16 neu’n 17 oed,

(b)estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n ddinasyddion tramor cymhwysol,

(c)caniatáu i ddinasyddion tramor cymhwysol fod yn Aelodau o’r Senedd, a

(d)anghymhwyso aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag bod yn Aelodau o’r Senedd.

(2)Rhaid i’r adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) gael ei osod gerbron y Senedd.

(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â diwrnod etholiad cyntaf y Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 38 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 42(1)(d)