Search Legislation

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

15Gwahoddiadau i gofrestru: darpariaeth bellach am bersonau o dan 16 oed

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth am wahoddiadau i’w rhoi o dan adran 9E(1) o Ddeddf 1983 (gwahoddiadau i wneud cais i gofrestru) mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) gynnwys darpariaeth—

(a)ynghylch ffurf a chynnwys gwahoddiadau;

(b)ynghylch sut a phryd y mae’n rhaid rhoi gwahoddiadau;

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ffurflenni cais neu ddogfennau eraill (gan gynnwys ffurflenni cais a gwblhawyd yn rhannol) yn cyd-fynd â gwahoddiadau, neu’n cael eu cyfuno â gwahoddiadau.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) roi swyddogaethau i’r Comisiwn Etholiadol (er enghraifft, gallai fod yn ofynnol i’r Comisiwn ddylunio gwahoddiad).

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu (neu ddirymu) neu addasu unrhyw ddeddfiad.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

Back to top

Options/Help