RHAN 3ETHOLIADAU
Cofrestru etholiadol
I115Gwahoddiadau i gofrestru: darpariaeth bellach am bersonau o dan 16 oed
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth am wahoddiadau i’w rhoi o dan adran 9E(1) o Ddeddf 1983 (gwahoddiadau i wneud cais i gofrestru) mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) gynnwys darpariaeth—
a
ynghylch ffurf a chynnwys gwahoddiadau;
b
ynghylch sut a phryd y mae’n rhaid rhoi gwahoddiadau;
c
sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ffurflenni cais neu ddogfennau eraill (gan gynnwys ffurflenni cais a gwblhawyd yn rhannol) yn cyd-fynd â gwahoddiadau, neu’n cael eu cyfuno â gwahoddiadau.
3
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) roi swyddogaethau i’r Comisiwn Etholiadol (er enghraifft, gallai fod yn ofynnol i’r Comisiwn ddylunio gwahoddiad).
4
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu (neu ddirymu) neu addasu unrhyw ddeddfiad.
5
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.