RHAN 3ETHOLIADAU

Cofrestru etholiadol

24Diogelu gwybodaeth am bersonau o dan 16 oed

(1)

Ni chaiff swyddog cofrestru gyhoeddi, cyflenwi neu ddatgelu fel arall wybodaeth person ifanc, heblaw yn unol â’r canlynol—

(a)

adran 25, neu

(b)

rheoliadau o dan adran 26.

(2)

Yn yr adran hon ac adrannau 25 a 26—

ystyr “cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol” (“absent voters record or list”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)

cofnod a gedwir o dan erthygl 8(3), 9(6) neu 12(6) o Orchymyn 2007;

(b)

rhestr a gedwir o dan erthygl 10 neu 12(8) o Orchymyn 2007;

mae “cofrestr o etholwyr llywodraeth leol” (“register of local government electors”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad o addasiad yn y gofrestr o dan adran 13A(2), 13AB(2) neu 13B(3), (3B) neu (3D) o Ddeddf 1983;

ystyr “gwybodaeth person ifanc” (“a young person’s information”) yw unrhyw—

(a)

cofnod yn y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, neu

(b)

eitem mewn cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol,

sy’n ymwneud â pherson sydd, adeg cyhoeddi neu gyflenwi’r wybodaeth neu ei datgelu fel arall, o dan 16 oed, ac mae “person ifanc” i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae “swyddog cofrestru” (“registration officer”) yn cynnwys—

(a)

dirprwy i swyddog cofrestru;

(b)

person a benodir i gynorthwyo swyddog cofrestru i gyflawni swyddogaethau’r swyddog cofrestru;

(c)

person, yng nghwrs cyflogaeth y person, sy’n cynorthwyo swyddog cofrestru i gyflawni’r swyddogaethau hynny.