Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/03/2021.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, Adran 25.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben adran 24(1).
(2)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i unrhyw berson i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben cyflawni swyddogaethau’r person hwnnw mewn cysylltiad ag—
(a)cofrestru etholwyr, neu
(b)cynnal etholiad.
(3)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc yn unol â rheoliad [F1(9) a (9A)] o Reoliadau 2001 (rhagboblogi’r ffurflen ganfasio).
(4)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc (oni bai am unrhyw wybodaeth y gellid canfod dyddiad geni’r person oddi wrthi) mewn fersiwn neu gopi o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol neu gofnod neu restr o bleidleiswyr absennol a gyflenwir yn unol â deddfiad cyflenwi perthnasol, ond dim ond i’r graddau y bo gwneud hynny’n angenrheidiol at ddibenion etholiad lle y bydd gan y person ifanc hawl i bleidleisio neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath.
(5)Yn is-adran (4), ystyr “deddfiad cyflenwi perthnasol” yw—
(a)rheoliad 100 o Reoliadau 2001 (cyflenwi i’r Comisiwn Etholiadol);
(b)rheoliad 104 o Reoliadau 2001 (cyflenwi i ddeiliaid swyddi etholiadol perthnasol ac ymgeiswyr), i’r graddau y mae’n gymwys i Aelod o’r Senedd [F2, i aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, i faer etholedig ar gyfer awdurdod lleol yng Nghymru neu i ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol] ;
(c)rheoliad 108 o Reoliadau 2001 (cyflenwi i ymgeiswyr), i’r graddau y mae’n gymwys i ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd [F3neu mewn etholiadau llywodraeth leol];
(d)rheoliad 102 o Reoliadau 2001 (darpariaeth gyffredinol), i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 104 a 108;
[F4(e)rheoliad 61 o reoliadau 2001 (cofnodion neu restrau pleidleiswyr absennol) i’r graddau y mae’n gymwys i etholiadau llywodraeth leol ac unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r rheoliad hwnnw mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd;]
[F5(f)rheoliad 98 o reoliadau 2001 (cyflenwi i swyddogion canlyniadau) i’r graddau y mae’n gymwys i swyddogion canlyniadau cynghorau cymuned a swyddogion canlyniadau ar gyfer unrhyw etholiadau’r Senedd ac unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i reoliad 98(4) mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd.]
(6)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i unrhyw berson i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol sy’n ymwneud â throsedd (neu drosedd honedig) o dan unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag—
(a)cofrestru etholwyr, neu
(b)cynnal etholiadau.
(7)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i’r person ifanc y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.
(8)Rhaid i swyddog cofrestru gyflenwi gwybodaeth person ifanc i’r person ifanc y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef os bydd y person ifanc yn gofyn am yr wybodaeth at ddiben gwirio bod y person ifanc yn rhoddwr a ganiateir o fewn ystyr (“permissible donor”) yn adran 54(2)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).
(9)Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i berson a benodwyd yn ddirprwy i bleidleisio ar ran y person ifanc y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.
(10)Ni chaiff person y datgelwyd gwybodaeth person ifanc iddo o dan is-adran (2) neu (6) ddatgelu’r wybodaeth i berson arall, ac eithrio fel y crybwyllir yn yr is-adran honno.
(11)Mae person sy’n torri is-adran (10) yn cyflawni trosedd ac mae’n agored i ddirwy ar euogfarn ddiannod.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 25(3) wedi eu hamnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(f), Atod. 2 para. 15(3)(a) (ynghyd ag a. 3)
F2Geiriau yn a. 25(5)(b) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(f), Atod. 2 para. 15(3)(b)(i) (ynghyd ag a. 3)
F3Geiriau yn a. 25(5)(c) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(f), Atod. 2 para. 15(3)(b)(ii) (ynghyd ag a. 3)
F4A. 25(5)(e) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(f), Atod. 2 para. 15(3)(b)(iii) (ynghyd ag a. 3)
F5A. 25(5)(f) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(f), Atod. 2 para. 15(3)(b)(iv) (ynghyd ag a. 3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 mewn grym ar 1.6.2020, gweler a. 42(3)(a)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: