Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, Croes Bennawd: Cymhwyso’r ddyletswydd. Help about Changes to Legislation

Cymhwyso’r ddyletswyddLL+C

3Pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwysLL+C

(1)Daw’r ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol mewn perthynas â chorff GIG os yw’n ymddangos i’r corff fod y ddau o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw bod person (y “defnyddiwr gwasanaeth”) y mae’r corff yn darparu neu wedi darparu gofal iechyd iddo wedi dioddef canlyniad andwyol.

(3)Yr ail amod yw bod darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor, a achosodd i’r defnyddiwr gwasanaeth ddioddef y canlyniad hwnnw.

(4)At ddiben yr amod cyntaf, mae defnyddiwr gwasanaeth i’w drin fel pe bai wedi dioddef canlyniad andwyol os yw’r defnyddiwr yn profi mwy nag ychydig o niwed annisgwyl neu anfwriadol neu os yw’r amgylchiadau yn golygu y gallai brofi niwed o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 3 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(c)

Back to top

Options/Help