(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) wneud trefniadau i ddwyn gweithgareddau Corff Llais y Dinesydd i sylw pobl sy’n cael, neu a all gael, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan neu ar ran y person.
(2)Y personau yw—
(a)awdurdod lleol;
(b)corff GIG.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2A. 17 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(n)
(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) gyflenwi i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw wybodaeth y mae Corff Llais y Dinesydd yn gofyn yn rhesymol amdani at ddiben cyflawni ei swyddogaethau.
(2)Y personau yw—
(a)awdurdod lleol;
(b)corff GIG.
(3)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol neu sy’n caniatáu datgelu unrhyw wybodaeth a waherddir gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(4)Rhaid i berson sy’n gwrthod datgelu gwybodaeth mewn ymateb i gais a wneir o dan is-adran (1) roi i Gorff Llais y Dinesydd ei resymau yn ysgrifenedig dros beidio â datgelu’r wybodaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I4A. 18 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(o)