Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol mewn cysylltiad â Chorff Llais y Dinesydd

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, Croes Bennawd: Dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol mewn cysylltiad â Chorff Llais y Dinesydd. Help about Changes to Legislation

Dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol mewn cysylltiad â Chorff Llais y DinesyddLL+C

17Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y DinesyddLL+C

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) wneud trefniadau i ddwyn gweithgareddau Corff Llais y Dinesydd i sylw pobl sy’n cael, neu a all gael, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan neu ar ran y person.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 17 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(n)

18Dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y DinesyddLL+C

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) gyflenwi i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw wybodaeth y mae Corff Llais y Dinesydd yn gofyn yn rhesymol amdani at ddiben cyflawni ei swyddogaethau.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol neu sy’n caniatáu datgelu unrhyw wybodaeth a waherddir gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Rhaid i berson sy’n gwrthod datgelu gwybodaeth mewn ymateb i gais a wneir o dan is-adran (1) roi i Gorff Llais y Dinesydd ei resymau yn ysgrifenedig dros beidio â datgelu’r wybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4A. 18 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(o)

Back to top

Options/Help