(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch—
(a)ceisiadau a wneir gan Gorff Llais y Dinesydd i gael mynediad i fangreoedd at ddiben ceisio barn unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a
(b)pan fo mynediad i’r mangreoedd hynny wedi ei gytuno, ymgysylltu ag unigolion yn y mangreoedd hynny at y diben hwnnw.
(2)Ystyr “mangreoedd” yn is-adran (1) yw unrhyw fangreoedd y darperir gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol ynddynt.
(3)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i’r cod.
(4)Rhaid i bob awdurdod lleol a chorff GIG roi sylw i’r cod (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.
(5)Wrth lunio’r cod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)Corff Llais y Dinesydd;
(b)pob awdurdod lleol;
(c)pob corff GIG;
(d)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2A. 19(1)(2)(5) mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(b)