RHAN 4CORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Mynediad i fangreoedd gan Gorff Llais y Dinesydd: dyletswydd i roi sylw i god ymarfer

I119Cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd

I21

Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch—

a

ceisiadau a wneir gan Gorff Llais y Dinesydd i gael mynediad i fangreoedd at ddiben ceisio barn unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a

b

pan fo mynediad i’r mangreoedd hynny wedi ei gytuno, ymgysylltu ag unigolion yn y mangreoedd hynny at y diben hwnnw.

I22

Ystyr “mangreoedd” yn is-adran (1) yw unrhyw fangreoedd y darperir gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol ynddynt.

I33

Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i’r cod.

I34

Rhaid i bob awdurdod lleol a chorff GIG roi sylw i’r cod (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

I25

Wrth lunio’r cod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

a

Corff Llais y Dinesydd;

b

pob awdurdod lleol;

c

pob corff GIG;

d

unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.