ATODLEN 1Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru

RHAN 5Gweithdrefn etc.

17Tystiolaeth

Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl Corff Llais y Dinesydd neu wedi ei llofnodi ar ei ran i’w derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, i’w chymryd fel pe bai wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.