ATODLEN 1Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru
RHAN 4Swyddogaethau Ategol etc.
11Pwyllgorau
1
Caiff Corff Llais y Dinesydd sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau.
2
Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Corff neu fod â phersonau o’r fath yn unig.
3
Caiff y Corff dalu treuliau a lwfansau i unrhyw berson—
a
sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a
b
nad yw’n aelod o’r Corff, nac yn aelod o’i staff.
12Dirprwyo
1
Caiff Corff Llais y Dinesydd drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—
a
o’i bwyllgorau,
b
o’i is-bwyllgorau,
c
o’i aelodau, neu
d
o’i staff.
2
Nid yw trefniant o dan is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb y Corff am arfer swyddogaeth ddirprwyedig, nac ar ei allu i arfer swyddogaeth ddirprwyedig.
13Pwerau atodol
1
Caiff Corff Llais y Dinesydd wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.
2
Ond nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i’r Corff fenthyca arian.