Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 4

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, RHAN 4. Help about Changes to Legislation

RHAN 4LL+CSwyddogaethau Ategol etc.

PwyllgorauLL+C

11(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Corff neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

(3)Caiff y Corff dalu treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

(b)nad yw’n aelod o’r Corff, nac yn aelod o’i staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

DirprwyoLL+C

12(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—

(a)o’i bwyllgorau,

(b)o’i is-bwyllgorau,

(c)o’i aelodau, neu

(d)o’i staff.

(2)Nid yw trefniant o dan is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb y Corff am arfer swyddogaeth ddirprwyedig, nac ar ei allu i arfer swyddogaeth ddirprwyedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Pwerau atodolLL+C

13(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i’r Corff fenthyca arian.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I6Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Back to top

Options/Help