Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 6

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, RHAN 6. Help about Changes to Legislation

RHAN 6LL+CMaterion Ariannol

CyllidLL+C

18Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i Gorff Llais y Dinesydd o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau, ac yn unol ag unrhyw amodau, y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Swyddog cyfrifydduLL+C

19(1)Prif weithredwr Corff Llais y Dinesydd yw ei swyddog cyfrifyddu.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Corff, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Corff;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd y Corff o’i adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ei Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

CyfrifonLL+C

20(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Corff gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I6Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

ArchwilioLL+C

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob datganiad o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Gorff Llais y Dinesydd o dan baragraff 20(3)(b).

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod pan gyflwynir y datganiad o gyfrifon (“y cyfnod o 4 mis”), osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol cydymffurfio â pharagraff (a), ddatganiad i’r perwyl hwnnw, y mae rhaid iddo gynnwys rhesymau o ran pam mae hyn yn wir.

(4)Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gosod datganiad o dan is-baragraff (3)(b) mewn perthynas â datganiad o gyfrifon, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 4 mis.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-baragraff (2) rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn benodol, archwilio a aed, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol, i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef, yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant hwnnw, ac adrodd ar hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I8Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Back to top

Options/Help