ATODLEN 2Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau
Cynlluniau trosglwyddo
1
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, wneud un neu ragor o gynlluniau trosglwyddo.
(2)
Mae cynllun trosglwyddo yn gynllun sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a grybwyllir yn is-baragraff (3).
(3)
Mae’r eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau yn eiddo ac yn hawliau a gaffaelir, neu’n rhwymedigaethau yr eir iddynt, gan—
(a)
Gweinidogion Cymru;
(b)
Bwrdd Iechyd Lleol;
(c)
ymddiriedolaeth GIG.
(4)
Ymhlith y pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun trosglwyddo mae—
(a)
eiddo, hawliau a rhwymedigaethau na ellid eu trosglwyddo fel arall;
(b)
eiddo a gaffaelir, a hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud.
(5)
Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, atodol, gysylltiedig, drosiannol neu ddarfodol.
(6)
Yn rhinwedd is-baragraff (5), caiff cynllun trosglwyddo, er enghraifft—
(a)
creu hawliau, neu osod rhwymedigaethau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;
(b)
gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
(c)
gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd wrthi’n cael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
(d)
gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchnogaeth ar eiddo neu ddefnydd o eiddo;
(e)
gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Lywodraeth Cymru neu Weinidogion Cymru, neu gyfeiriadau at Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, mewn offeryn neu mewn dogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir, gael eu trin fel cyfeiriadau at Gorff Llais y Dinesydd;
(f)
gwneud yr un ddarpariaeth â darpariaeth a wneir gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), neu ddarpariaeth sy’n debyg i’r ddarpariaeth honno, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad.
(7)
Caiff cynllun trosglwyddo ddarparu—
(a)
ar gyfer ei addasu drwy gytundeb;
(b)
i addasiadau gael effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun yn effeithiol.
(8)
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw gynllun trosglwyddo gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(9)
Yn y paragraff hwn—
(a)
mae cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi mewn perthynas â chontract cyflogaeth;
(b)
mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys cyfeiriadau at roi les.