RHAN 1Trosolwg
I1I21Trosolwg o’r Ddeddf hon
Yn y Ddeddf hon—
a
mae Rhan 2 yn gosod gofynion mewn cysylltiad â gwella ansawdd gwasanaethau iechyd;
b
mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ac ynghylch dyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd;
c
mae Rhan 4 yn sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau;
d
mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIG; ar gyfer mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall; ac yn cynnwys darpariaeth atodol ynghylch y Ddeddf hon (gan gynnwys ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau o dan y Ddeddf).