Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

14Ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisiLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i amcan cyffredinol ac o’i swyddogaethau.

(2)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi sy’n nodi sut y mae’n bwriadu—

(a)hybu ymwybyddiaeth o’i swyddogaethau, a

(b)ceisio barn y cyhoedd at ddibenion ei amcan cyffredinol.

(3)Rhaid i’r datganiad polisi bennu’n benodol sut y mae Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn bwriadu sicrhau—

(a)bod y Corff yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru,

(b)bod y Corff yn hygyrch i bobl ledled Cymru, ac

(c)bod aelodau o staff y Corff ac unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Corff yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phobl ledled Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 14 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(k)