RHAN 4CORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Cyflwyno sylwadau
I115Sylwadau i gyrff cyhoeddus
1
Caiff Corff Llais y Dinesydd gyflwyno sylwadau i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ynghylch unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd neu ddarparu gwasanaethau cymdeithasol.
2
Y personau yw—
a
awdurdod lleol;
b
corff GIG.
3
Rhaid i berson y mae sylwadau o dan is-adran (1) wedi eu cyflwyno iddo roi sylw i’r sylwadau wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae’r sylwadau yn ymwneud â hi.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r personau a grybwyllir yn is-adran (2), mewn perthynas â sylwadau a gyflwynir o dan yr adran hon.
5
Rhaid i’r personau hynny roi sylw i’r canllawiau.