Yn y Rhan hon—
ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “corff GIG” (“NHS body”) yw—
Bwrdd Iechyd Lleol;
ymddiriedolaeth GIG;
Awdurdod Iechyd Arbennig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2A. 22 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(d)