25RheoliadauLL+C
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—
(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2A. 25 mewn grym ar 7.3.2023 gan O.S. 2023/259, ergl. 2(2)(a)