RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
28Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.
1
Caiff rheoliadau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, wneud—
a
darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
b
darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
2
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
3
Ystyr “deddfiad” yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir—
a
Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;
c
is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan Ddeddf neu Fesur y cyfeirir ati neu ato ym mharagraff (a) neu (b).