RHAN 3DYLETSWYDD GONESTRWYDD
Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill
I1I24Gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd
1
Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer gweithdrefn (y “weithdrefn gonestrwydd”) sydd i’w dilyn gan gorff GIG y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn perthynas ag ef.
2
Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG, fel rhan o’r weithdrefn gonestrwydd—
a
wrth ddod yn ymwybodol gyntaf fod y ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol, roi hysbysiad o hyn yn unol â’r rheoliadau i’r defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw neu rywun sy’n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth;
b
hysbysu person a grybwyllir ym mharagraff (a), yn unol â’r rheoliadau, am—
i
pwy yw person sydd wedi ei enwebu gan y corff yn bwynt cyswllt ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd;
ii
unrhyw ymholiadau pellach a gynhelir gan y corff mewn cysylltiad â’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol odanynt.
3
Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth hefyd—
a
i’r corff gynnig ymddiheuriad;
b
mewn cysylltiad â darparu cymorth i ddefnyddiwr gwasanaeth y rhoddir hysbysiad iddo o dan is-adran (2)(a);
c
ynghylch cadw cofnodion.
4
Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.