RHAN 3LL+CDYLETSWYDD GONESTRWYDD

Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraillLL+C

4Gweithdrefn dyletswydd gonestrwyddLL+C

(1)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer gweithdrefn (y “weithdrefn gonestrwydd”) sydd i’w dilyn gan gorff GIG y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn perthynas ag ef.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG, fel rhan o’r weithdrefn gonestrwydd—

(a)wrth ddod yn ymwybodol gyntaf fod y ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol, roi hysbysiad o hyn yn unol â’r rheoliadau i’r defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw neu rywun sy’n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth;

(b)hysbysu person a grybwyllir ym mharagraff (a), yn unol â’r rheoliadau, am—

(i)pwy yw person sydd wedi ei enwebu gan y corff yn bwynt cyswllt ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd;

(ii)unrhyw ymholiadau pellach a gynhelir gan y corff mewn cysylltiad â’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol odanynt.

(3)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth hefyd—

(a)i’r corff gynnig ymddiheuriad;

(b)mewn cysylltiad â darparu cymorth i ddefnyddiwr gwasanaeth y rhoddir hysbysiad iddo o dan is-adran (2)(a);

(c)ynghylch cadw cofnodion.

(4)Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 4 mewn grym ar 7.3.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/259, ergl. 2(1)(a)

I3A. 4 mewn grym ar 1.4.2023 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/370, ergl. 3(2)(a)