RHAN 3DYLETSWYDD GONESTRWYDD
Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill
I16Cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5
1
Rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol sydd wedi llunio adroddiad o dan adran 5 mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol gyflenwi’r adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.
2
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae adroddiadau wedi eu cyflenwi iddo o dan is-adran (1) lunio crynodeb o’r adroddiadau hynny cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.
3
Rhaid i’r crynodeb—
a
pennu pa mor aml, yn ystod y flwyddyn adrodd, y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn cysylltiad â’r gofal iechyd a ddarperir ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol gan ddarparwr gofal sylfaenol,
b
rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac
c
disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gofal sylfaenol gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.