7Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adroddLL+C
(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG neu Awdurdod Iechyd Arbennig lunio adroddiad o dan yr adran hon.
(2)Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y corff.
(3)Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—
(a)pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,
(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac
(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y corff gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2A. 7 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(f)