9CyfrinacheddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Ni chaiff adroddiad a gyhoeddir gan gorff GIG o dan adran 8 enwi—
(a)unrhyw un y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu wedi ei ddarparu iddo gan neu ar ran y corff GIG;
(b)unrhyw un sy’n gweithredu ar ran person o fewn paragraff (a).
(2)Wrth benderfynu pa wybodaeth i’w chynnwys mewn adroddiad o dan adran 8, rhaid i gorff GIG roi sylw i’r angen i osgoi darparu gwybodaeth sy’n golygu ei bod yn debygol, o dan yr amgylchiadau, y bydd modd gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw, er nad yw’r wybodaeth yn ei enwi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2A. 9 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(h)