Gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiolLL+C
1Trosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiolLL+C
(1)Mae person sy’n weithredwr syrcas deithiol yn cyflawni trosedd os yw’r person yn defnyddio anifail gwyllt yn y syrcas deithiol yng Nghymru, neu’n peri neu’n caniatáu i berson arall wneud hynny.
(2)At ddiben yr adran hon, mae anifail gwyllt yn cael ei ddefnyddio os yw’r anifail—
(a)yn perfformio, neu
(b)yn cael ei arddangos.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
2Ystyr “gweithredwr”LL+C
Yn y Ddeddf hon, ystyr “gweithredwr” yw—
(a)perchennog y syrcas deithiol,
(b)person ac eithrio’r perchennog sy’n bennaf gyfrifol am weithrediad y syrcas deithiol, neu
(c)os nad yw’r naill na’r llall o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) yn bresennol yn y Deyrnas Unedig, y person yn y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am weithrediad y syrcas deithiol.
3Ystyr “anifail gwyllt”LL+C
(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “anifail gwyllt” yw anifail o fath nad yw wedi ei ddomestigeiddio yn gyffredin yn yr Ynysoedd Prydeinig.
(2)Er gwaethaf is-adran (1), caiff rheoliadau bennu at ddibenion y Ddeddf hon—
(a)math o anifail sydd i’w ystyried yn anifail gwyllt;
(b)math o anifail nad yw i’w ystyried yn anifail gwyllt.
(3)Yn y Ddeddf hon, mae i “anifail” yr un ystyr ag a roddir i “animal” gan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p. 45) (gweler adran 1).
(4)Yn is-adran (1), ystyr yr “Ynysoedd Prydeinig” yw’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
4Ystyr “syrcas deithiol”LL+C
(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “syrcas deithiol” yw syrcas sy’n teithio o un man i fan arall at ddiben darparu adloniant yn y mannau hynny.
(2)Mae “syrcas deithiol” yn cynnwys syrcas sy’n teithio fel a grybwyllir yn is-adran (1) at y diben a grybwyllir yno, er bod cyfnodau pan nad yw’n teithio o un man i fan arall.
(3)Er gwaethaf is-adran (1), caiff rheoliadau bennu at ddibenion y Ddeddf hon—
(a)math o ymgymeriad, perfformiad neu adloniant sydd i’w ystyried yn syrcas deithiol;
(b)math o ymgymeriad, perfformiad neu adloniant nad yw i’w ystyried yn syrcas deithiol.
GorfodiLL+C
5Pwerau gorfodiLL+C
Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch pwerau gorfodi.
Troseddau gan gyrff corfforedig etc.LL+C
6Troseddau gan gyrff corfforedig etc.LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni gan—
(a)corff corfforedig;
(b)partneriaeth;
(c)cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.
(2)Mae person a grybwyllir yn is-adran (3) yn cyflawni’r drosedd hefyd os profir bod y drosedd—
(a)wedi ei chyflawni gan y person hwnnw, neu gyda’i gydsyniad neu ymoddefiad, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y person hwnnw.
(3)Y personau yw—
(a)mewn perthynas â chorff corfforedig, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall y corff corfforedig;
(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;
(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i chorff llywodraethu.
(4)Yn is-adran (3)(a), ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau yw aelod o’r corff corfforedig.
(5)Yn y Ddeddf hon, ystyr “partneriaeth” yw—
(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaethau 1890 (p. 39), neu
(b)partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24).
7Achosion: troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedigLL+C
(1)Mae achos am drosedd o dan adran 1 yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).
(2)Mae achos am drosedd o dan adran 1 yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).
(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig.
(4)Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.
Diwygiadau sy’n ymwneud â thrwyddedu syrcasauLL+C
8Diwygiadau sy’n ymwneud â thrwyddedu syrcasauLL+C
(1)Hepgorer adran 5(2) o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (p. 38) (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau 2019 (p. 24)).
(2)Yn adran 1(2) o Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981 (p. 37), ar ôl “(as so defined)” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd mewnosoder “in England”.
Cymhwyso i’r GoronLL+C
9Pŵer yr Uchel Lys i ddatgan bod gweithred neu anweithred y Goron yn anghyfreithlonLL+C
Caiff yr Uchel Lys ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred y Goron yn anghyfreithlon pe byddai’r Goron yn atebol amdani o ran cyfraith trosedd o dan y Ddeddf hon oni bai am adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) (nid yw Deddfau’r Cynulliad yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd).
10Tir y Goron: pwerau mynediadLL+C
(1)Ni chaniateir arfer y pwerau a roddir gan yr Atodlen (pwerau mynediad etc.) mewn perthynas â thir y Goron ond gyda chydsyniad yr awdurdod priodol.
(2)Yn yr adran hon—
(a)ystyr “tir y Goron” yw tir y mae buddiant ynddo—
(i)yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Ei hystad breifat,
(ii)yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn,
(iii)yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, neu
(iv)yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth;
(b)ystyr “awdurdod priodol”—
(i)os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron, yw Comisiynwyr Ystad y Goron neu un o adrannau eraill y llywodraeth sy’n rheoli’r tir o dan sylw;
(ii)os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugiaeth;
(iii)os yw’r tir yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, yw’r person hwnnw y mae Dug Cernyw, neu’r person sy’n meddu ar Ddugiaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi;
(iv)os yw’r tir yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth, yw’r adran honno.
(3)Os oes unrhyw gwestiwn yn codi o dan yr adran hon ynghylch pa awdurdod yw’r awdurdod priodol mewn perthynas ag unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i gael ei gyfeirio at y Trysorlys, a’r Trysorlys biau’r penderfyniad terfynol.
(4)Yn yr adran hon, mae’r cyfeiriad at ystadau preifat Ei Mawrhydi i’w ddehongli yn unol ag adran 1 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37).
CyffredinolLL+C
11RheoliadauLL+C
(1)Mae Rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w gwneud gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol, a
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
12Dod i rymLL+C
Daw’r Ddeddf hon i rym ar 1 Rhagfyr 2020.
13Enw byrLL+C
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020.