xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 5)

YR ATODLENPwerau gorfodi

Dehongli

1(1)Yn yr Atodlen hon—

(2)Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at feddiannydd mangre mewn perthynas â cherbyd yn gyfeiriadau at y person yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am y cerbyd; ac mae “heb ei meddiannu” i’w ddehongli yn unol â hynny.

Pŵer i fynd i fangreoedd ac eithrio anheddau

2(1)Caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre os oes gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros amau—

(a)bod trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni, wedi ei chyflawni neu ar fin cael ei chyflawni yn y fangre, neu

(b)y gall tystiolaeth bod trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni, wedi ei chyflawni neu ar fin cael ei chyflawni gael ei chanfod yn y fangre.

(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

Gwarant i fynd i annedd

3(1)Ni chaniateir i arolygydd fynd i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd oni bai—

(a)bod meddiannydd y fangre neu berson arall yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre yn rhoi cydsyniad, neu

(b)bod ynad heddwch wedi dyroddi, ar gais gan arolygydd, gwarant sy’n awdurdodi’r arolygydd i fynd i’r fangre.

(2)Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a dyngir ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros amau—

(i)bod trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni, wedi ei chyflawni neu ar fin cael ei chyflawni yn y fangre, neu

(ii)y gall tystiolaeth bod trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni, wedi ei chyflawni neu ar fin cael ei chyflawni gael ei chanfod yn y fangre; a

(b)bod unrhyw un neu ragor o amodau 1, 2, 3 neu 4 wedi eu bodloni.

(3)Amod 1 yw—

(a)bod gofyn am fynd i’r fangre wedi cael ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod, a

(b)bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i feddiannydd y fangre neu i berson yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre.

(4)Amod 2 yw y gallai gofyn am fynd i’r fangre neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan y paragraff hwn drechu diben mynd i’r fangre.

(5)Amod 3 yw bod y fangre heb ei meddiannu.

(6)Amod 4 yw—

(a)bod meddiannydd y fangre yn absennol dros dro, a

(b)y gallai aros i’r meddiannydd ddychwelyd drechu diben mynd i’r fangre.

4Mae gwarant a ddyroddir o dan baragraff 3—

(a)yn awdurdodi mynd i’r fangre ar un achlysur;

(b)yn gorfod cael ei gweithredu o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y’i dyroddir.

Mynd i fangre

5(1)Rhaid i arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad, os gofynnir iddo gan berson yn y fangre—

(a)dangos tystiolaeth o fanylion adnabod yr arolygydd, a

(b)amlinellu at ba ddiben yr arferir y pŵer.

(2)Pan fo arolygydd yn mynd i fangre o dan warant a ddyroddir o dan baragraff 3, rhaid i’r arolygydd hefyd—

(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos copi o’r warant, a

(b)os gofynnir iddo gan y meddiannydd neu berson yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre, roi copi o’r warant i’r person hwnnw.

(3)Os nad yw’r meddiannydd na pherson yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre yn bresennol—

(a) rhaid i’r arolygydd adael copi o’r warant mewn man amlwg yn y fangre, a

(b)wrth adael y fangre, rhaid i’r arolygydd ei gadael wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth yr arolygydd iddi.

6Rhaid i arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad wneud hynny ar adeg resymol oni bai yr ymddengys i’r arolygydd y byddai mynd i’r fangre ar adeg resymol yn llesteirio diben mynd i’r fangre.

7Caiff arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad ddefnyddio grym rhesymol i fynd i’r fangre os yw’n angenrheidiol.

8Caiff arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad—

(a)mynd ag unrhyw bersonau eraill i’r fangre gydag ef yr ymddengys i’r arolygydd ei bod yn briodol mynd â hwy, a

(b)mynd ag unrhyw gyfarpar a deunyddiau i’r fangre gydag ef yr ymddengys i’r arolygydd eu bod yn briodol mynd â hwy.

Pwerau arolygu etc.

9Caiff arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad—

(a)chwilio’r fangre;

(b)archwilio, mesur neu brofi unrhyw beth a ganfyddir yn y fangre, gan gynnwys anifail;

(c)holi unrhyw berson yn y fangre;

(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre roi unrhyw gymorth i’r arolygydd sy’n rhesymol ofynnol ganddo;

(e)cymryd sampl, gan gynnwys cymryd sampl o anifail;

(f)marcio anifail a ganfyddir yn y fangre at ddibenion adnabod;

(g)tynnu ffotograff o unrhyw beth a ganfyddir yn y fangre, neu ei recordio ar ffurf fideo, gan gynnwys anifail;

(h)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre gyflwyno unrhyw ddogfen neu gofnod ar ba ffurf bynnag y’i cedwir sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth;

(i)cymryd copïau o unrhyw ddogfen neu gofnod a ganfyddir yn y fangre ar ba ffurf bynnag y’i cedwir, neu gymryd darnau o’r ddogfen neu’r cofnod;

(j)ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth sy’n cael ei storio ar ffurf electronig ac sy’n hygyrch o’r fangre gael ei chyflwyno ar ffurf y gellir mynd ymaith â hi ac ar ffurf weladwy a darllenadwy, neu ar ffurf y gellir cyflwyno’r wybodaeth ar ffurf weladwy a darllenadwy yn rhwydd ohoni;

(k)ymafael yn unrhyw eitem, ac eithrio anifail, a ganfyddir yn y fangre ac y mae’r arolygydd yn credu yn rhesymol ei bod yn dystiolaeth o gyflawni trosedd o dan adran 1.

10Caiff person yr eir ag ef i’r fangre o dan baragraff 8(a) arfer unrhyw bŵer a roddir i arolygydd gan baragraff 9 os yw’r person o dan oruchwyliaeth yr arolygydd.

Pŵer ymafael: atodol

11(1)Caniateir cadw unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff 9(k) am gyhyd ag y bo angen.

(2)Rhaid i berson sy’n ymafael yn unrhyw beth o dan baragraff 9(k)—

(a)cadw cofnod o’r eitem yr ymafaelwyd ynddi, a

(b)darparu cofnod o’r eitem yr ymafaelwyd ynddi os gofynnir iddo wneud hynny gan berson a oedd yn meddiannu’r fangre ar yr adeg yr ymafaelwyd yn yr eitem, neu a oedd â’r eitem yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth yn union cyn yr ymafaelwyd ynddi.

(3)Nid yw paragraff 9(k) yn cynnwys pŵer i ymafael yn unrhyw eitem y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol yn ei chylch mewn achosion cyfreithiol.

Rhwystro etc.

12(1)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio â gofyniad am gymorth a wnaed yn rhesymol o dan baragraff 9(d);

(b)os yw’r person yn rhwystro yn fwriadol berson arall wrth iddo arfer swyddogaeth o dan yr Atodlen hon.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Atebolrwydd arolygwyr

13(1)Nid yw arolygydd yn atebol mewn unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth honni cyflawni swyddogaethau’r arolygydd o dan yr Atodlen hon os yw’r llys wedi ei fodloni y cyflawnwyd y weithred yn ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.

(2)Mae is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson y mae arolygydd yn mynd ag ef i fangre o dan baragraff 8(a) fel y mae’n gymwys i arolygydd os yw’r person o dan oruchwyliaeth yr arolygydd.