YR ATODLENPwerau gorfodi
I111Pŵer ymafael: atodol
1
Caniateir cadw unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff 9(k) am gyhyd ag y bo angen.
2
Rhaid i berson sy’n ymafael yn unrhyw beth o dan baragraff 9(k)—
a
cadw cofnod o’r eitem yr ymafaelwyd ynddi, a
b
darparu cofnod o’r eitem yr ymafaelwyd ynddi os gofynnir iddo wneud hynny gan berson a oedd yn meddiannu’r fangre ar yr adeg yr ymafaelwyd yn yr eitem, neu a oedd â’r eitem yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth yn union cyn yr ymafaelwyd ynddi.
3
Nid yw paragraff 9(k) yn cynnwys pŵer i ymafael yn unrhyw eitem y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol yn ei chylch mewn achosion cyfreithiol.