RHAN 3HYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 1TROSOLWG O’R RHAN

38Trosolwg

Yn y Rhan hon—

(a)

mae Pennod 2 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor—

(i)

annog pobl leol i gyfranogi pan fo’r cyngor yn gwneud penderfyniadau;

(ii)

llunio a chyhoeddi strategaeth sy’n nodi sut y bydd yn cydymffurfio â’i ddyletswydd i annog cyfranogiad pan wneir penderfyniadau;

(iii)

gwneud cynllun deisebau;

(iv)

cyhoeddi cyfeiriad electronig a chyfeiriad post ar gyfer pob un o’i aelodau;

(b)

mae Pennod 3 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi arweiniad i gyd-fynd â’i gyfansoddiad a sicrhau bod copïau o’r arweiniad ar gael ar gais;

(c)

mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth—

(i)

ar gyfer darlledu trafodion cyfarfodydd prif gynghorau ac awdurdodau lleol eraill sy’n agored i’r cyhoedd;

(ii)

sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau sy’n galluogi mynychu cyfarfodydd o bell;

(iii)

sy’n rhoi’r cyfle i aelodau o’r cyhoedd siarad yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned sy’n agored i’r cyhoedd;

(iv)

ynglŷn â rhoi hysbysiadau, a mynediad at ddogfennau, sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol;

(v)

ar gyfer gwneud rheoliadau ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleol, cyhoeddi gwybodaeth a chyfarfodydd cymunedol;

(d)

mae Pennod 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned gyhoeddi adroddiad blynyddol ynglŷn â’u blaenoriaethau, eu gweithgareddau a’u cyflawniadau.