RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL
Hawlogaeth aelodau i rannu swydd ac i absenoldeb teuluol
I160Rhannu swydd: swyddi nad ydynt yn swyddi gweithrediaeth o fewn prif gynghorau
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau at ddiben hwyluso neu alluogi rhannu swydd o fewn prif gyngor.
2
At ddibenion yr adran hon, ystyr “swydd o fewn prif gyngor” yw—
a
cadeirydd prif gyngor (gweler adran 22 o Ddeddf 1972);
b
is-gadeirydd prif gyngor (gweler adran 24 o’r Ddeddf honno);
c
aelod llywyddol o brif gyngor (gweler adran 24A o’r Ddeddf honno);
d
dirprwy aelod llywyddol o brif gyngor (gweler adran 24B o’r Ddeddf honno);
e
cadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o brif gyngor;
f
is-gadeirydd neu ddirprwy gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o brif gyngor;
g
dirprwy faer o fewn gweithrediaeth maer a chabinet (gweler Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (trefniadau gweithrediaeth)).
3
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), yn benodol—
a
ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau hwyluso neu alluogi rhannu swydd o fewn prif gyngor (gan gynnwys drwy ddiwygio rheolau sefydlog ac offerynnau eraill);
b
gwneud darpariaeth ynglŷn â phenodi, ethol neu enwebu person i rannu swydd o fewn prif gyngor;
c
gwneud darpariaeth ynglŷn ag arfer swyddogaethau swydd o fewn prif gyngor a rennir;
d
gwneud darpariaeth ynglŷn â phleidleisio a chworwm pan rennir swydd o fewn prif gyngor.
4
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt), ddatgymhwyso, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
5
Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion rheoliadau a wneir o dan is-adran (1).
6
Yn is-adran (2), mae cyfeiriad at bwyllgor neu is-bwyllgor yn cynnwys cyfeiriad at gyd-bwyllgor, neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor.
I261Absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau o awdurdodau lleol
1
Mae Mesur 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn adran 24 (absenoldeb mamolaeth)—
a
yn lle is-adran (2) rhodder—
2
Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—
a
i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mamolaeth mewn cysylltiad â phlentyn;
b
pryd y caniateir cymryd absenoldeb mamolaeth.
b
hepgorer is-adrannau (3) a (4).
3
Yn adran 25 (absenoldeb newydd-anedig), hepgorer—
a
is-adran (4);
b
is-adran (6);
c
is-adran (9);
d
yn is-adran (10), y diffiniad o “wythnos”.
4
Yn adran 26 (absenoldeb mabwysiadydd), hepgorer is-adran (3).
5
Yn adran 27 (absenoldeb mabwysiadu newydd), hepgorer—
a
is-adran (4);
b
is-adran (6);
c
is-adrannau (9) a (10).
6
Yn adran 28 (absenoldeb rhiant), hepgorer is-adran (4).