xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff unrhyw ddau brif gyngor neu ragor wneud cais ar y cyd (“cais cyd-bwyllgor”) i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 72 i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer—
(a)swyddogaeth i’r cynghorau hynny;
(b)y swyddogaeth llesiant economaidd,
mewn perthynas â phrif ardaloedd y cynghorau hynny.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cael cais cyd-bwyllgor, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau o dan adran 72, rhaid iddynt hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 70 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
Cyn gwneud cais cyd-bwyllgor rhaid i’r prif gynghorau ymgynghori ag—
(a)pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,
(b)pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,
(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,
(d)y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,
(e)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac
(f)unrhyw bersonau eraill y mae’r prif gynghorau yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 71 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu corff corfforedig (a elwir yn gyd-bwyllgor corfforedig) i arfer, mewn perthynas â phrif ardaloedd y prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor (“y cynghorau perthnasol”), swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau.
(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau a nodir yn adran 73 wedi eu bodloni.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ond pennu—
(a)swyddogaeth i’r prif gynghorau a wnaeth y cais;
(b)y swyddogaeth llesiant economaidd.
(4)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—
(a)yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y cynghorau perthnasol, neu
(b)yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r cynghorau perthnasol.
(5)Caniateir i swyddogaeth prif gyngor gael ei phennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 72 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)
(1)Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 72(2) fel a ganlyn.
(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi cael cais cyd-bwyllgor.
(3)Yr ail amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol ar ddrafft o’r rheoliadau arfaethedig—
(a)y prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor,
(b)pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,
(c)pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,
(d)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,
(e)y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,
(f)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac
(g)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(4)Y trydydd amod yw bod pob un o’r prif gynghorau a wnaeth y cais cyd-bwyllgor wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r rheoliadau gael eu gwneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 73 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)